Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 22 Mai 2017
Amser: 14.03 -
16.35
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4109
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Mike Hedges AC Neil McEvoy AC |
Tystion: |
Kevin Ingram, Cyfoeth Naturiol Cymru Dr Emyr Roberts, Cyfoeth Naturiol Cymru David Sulman, UK Forest Products Association |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Huw Vaughan Thomas - Archwilydd Cyffredinol Cymru Matthew Mortlock Dave Rees |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar AC a Lee Waters AC. Ni chafwyd dirprwyon. Roedd Rhianon Passmore AC yn absennol.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan David Sulman, Cyfarwyddwr Gweithredol, Cymdeithas Cynhyrchion Coedwig y DU fel rhan o'i ymchwiliad i'r gwaith craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015-16 Cyfoeth Naturiol Cymru.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a dderbyniwyd gan Mr Sulman.
3.1 Craffodd y Pwyllgor ar Dr Emyr Roberts, y Prif Weithredwr, a Kevin Ingram, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol Cyfoeth Naturiol Cymru o ran Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015-16 Cyfoeth Naturiol Cymru.
6.2 Craffodd yr Aelodau ar Dr Emyr Roberts a Kevin Ingram ar adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Ddatblygu Cyfoeth Naturiol Cymru a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2016.
6.3 Cytunodd Dr Roberts i anfon diweddariad ar ddangosyddion perfformiad CNC a chynnwys cymhariaeth blwyddyn wrth flwyddyn er mwyn galluogi'r Pwyllgor i asesu tueddiadau mewn perfformiad.
7.1 Bu'r Aelodau yn trafod y dystiolaeth a ddaeth i law wrth graffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015-16 Cyfoeth Naturiol Cymru. Nid oedd rhai Aelodau'n fodlon ar y dull a gymerwyd gan CNC at yr ymarfer tendro yn 2012 a nodwyd bod gwrthdaro o ran tystiolaeth gan y ddwy set o dystion ynghylch y mater hwn. Gofynnwyd i'r Clercod archwilio ymhellach gyda Mr Sulman beth oedd cyflwr y farchnad bren a beth oedd e'n teimlo y gallai CNC fod wedi'i wneud i ehangu cwmpas y tendr.
7.2 Nododd yr Aelodau y bydd yr adroddiad drafft ar gael iddynt i'w drafod yng Nghyfarfod y Pwyllgor ar 5 Mehefin.
7.3 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a dderbyniwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn dilyn craffu ar adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig â materion y mae'r Pwyllgor yn dymuno iddynt gael eu cynnwys yng ngwaith craffu blynyddol y Pwyllgor ar CNC yn nhymor yr hydref.